top of page
11eg - 13eg Hydref, Pontypridd



Wil Morus Jones - Taith Gerdded
3PM
Parc Arts

Gan ddechrau ym Mharc Arts, capel cartref Morfydd, bydd Morus Jones, yn arwain taith gerdded ddifyr, ysgafn o gwmpas strydoedd Trefforest gan ailymweld â safleoedd a mannau allweddol yn stori Morfydd Owen. Dewch i ddilyn ei throed drwy'r gymuned a'i gwnaeth hi.Bu Wil Morus Jones yn allweddol wrth sicrhau'r 'Plac Glas' i goffau man geni Morfydd Owen ar Stryd y Parc. Mae gan Wil ddiddordeb mawr mewn hanes lleol a diwylliant Cymreig ac mae wedi bod yn gefnogwr brwd i warchod etifeddiaeth Morfydd Owen yn yr ardal leol ers blynyddoedd.
AM DDIM NID OES ANGEN ARCHEBU
bottom of page