top of page
11eg - 13eg Hydref, Pontypridd



Cerys Hafana
9PM
Clwb Y Bont
Cyfansoddwr sy’n canu lliaws offerynnau yw Cerys Hafana, sy’n llurgunio, yn newid ac yn gweddnewid cerddoriaeth draddodiadol. Mae’n chwilo posibiliadau creadigol a chyneddfau dihafal y delyn deires, ac mae’n ymddiddori hefyd mewn seiniau caffael, deunyddiau archifol, a phrosesu electronig. Brodor o Fachynlleth yw hi, lle mae afonydd a heolydd yn cwrdd ar eu ffordd i’r môr. Yn sgil ei naws hudol, flaengar mae Cerys wedi ennill calonnau cynulleidfaoedd o’r Dyn Gwyrdd i’r Eisteddfod ac o Ŵyl Gerdd BBC 6 i Celtic Connections. Bydd Cerys Hafana’n chwarae ei cherddoriaeth wreiddiol ar ei thelyn deires adnabyddus yn ogystal ag ambell i ddarn i’r piano o archif Morfydd Owen.
AM DDIM NID OES ANGEN ARCHEBU

bottom of page