11eg - 13eg Hydref, Pontypridd



Bethan Nia a Jess Morgan
5PM
Parc Arts

Bydd Jessica a Bethan yn perfformio gyda’i gilydd yn y perfformiad untro arbennig yma o ganeuon a ysbrydolwyd gan fywyd Morfydd Owen, ei cherddoriaeth a’r ffordd y mae’n dal i ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid – yn neilltuol, artistiaid benywaidd, sy’n byw ym Mhontypridd a Threfforest a’r cyffiniau. Sgrifennwyd y cyfansoddiadau dwyieithog gan Bethan a Jessica ac fe’u cyllidwyd gan Tŷ Cerdd yn 2023. Roedd y fenter yn cynnwys gweithdy yn Parc Arts i artistiaid benywaidd lleol – ysbrydolodd eu geiriau hwythau hefyd ac maen nhw wedi’u cynnwys yn y cyfansoddiadau. Mae’r perfformiad yma’n arbennig dros ben gan mai yn Parc Arts y’i cynhelir – sef yr Eglwys Bresbyteraidd lle’r oedd Morfydd ei hun yn canu’r organ ac yn cyfansoddi yn ystod blynyddoedd bore’i hoes yn byw yn Nhrefforest.
Mae Bethan Nia yn delynores a chantores gwerin sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y DU gyda chyfuniad o chwarae medrus a dewis arloesol o gerddoriaeth gyfoes. Enillodd Bethan wobr Danny Kyle yn Celtic Connections 2008, ac mae hi wedi chwarae amrywiaeth o wyliau megis Glastonbury a Gŵyl Rhyng-Geltaidd Lorient. Cynhyrchwyd albwm cyntaf dwyieithog Bethan, “Ffiniau”, gan gynhyrchydd REM, Charlie Francis.
“A touch of Celtic magic…Hauntingly beautiful” – The Western Mail
“This is a superb mixture of the traditional and contemporary, her harp-playing perfectly matching a gorgeous voice.” – Frank Hennessey, Radio Wales
“There is something of Kate Bush’s ‘Aerial’ in this…the beauty of Bethan Nia’s writing and performances on this album is undeniable” – Buzz Magazine
Canwr a chyfansoddwr caneuon o Bontypridd yw Jess Morgan. Mae wedi canu ym mhobman o dafarnau a chlybiau lleol i eglwysi cadeiriol, adeiladau’r llywodraeth a neuaddau cyngerdd. Bu ar y radio a’r teledu ac mae’n frwd dros ymorol bod canu ar gael i bawb o bobol y byd fel sydd i’w weld arni’n arwain Côr Cymuned Pontypridd. Jess yw rheolwr Parc Arts ac mae’n canu’n rheolaidd gyda SOW Acapella.