10fed - 12fed Hydref

Noson gydag Amy Wadge
18:30 - 21:00
Y Muni



Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy llawn cerddoriaeth gydag Amy Wadge.
Gyda'i llais llawn enaid, ei geiriau calonogol, a'i phresenoldeb llwyfan cyfareddol, mae Amy yn dod â'i straeon yn fyw mewn perfformiad agos atoch ar gyfer Gŵyl Morfydd eleni.
Mae Amy Wadge yn un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf llwyddiannus y DU, gyda phedair gwobr Grammy ac 20 enwebiad dros y degawd diwethaf. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer ystod eang o artistiaid poblogaidd, gan gynnwys Jennifer Lopez, Pink, Alicia Keys, Camila Cabello, Kylie Minogue, Keith Urban, John Legend, Kacey Musgraves, FKA Twigs, Paloma Faith, Andrea Bocelli, a Diana Ross.
Ei gwaith mwyaf enwog yw ei chân gydag Ed Sheeran, roedd Amy wedi cyd-ysgrifennu’r gân Thinking Out Loud. Cyrhaeddodd y gân yma rif 1 yn y DU, enillodd statws diemwnt yn yr Unol Daleithiau, a dyma oedd y sengl unigol fwyaf llwyddiannus yn hanes America. Enillodd y trac ddwy Wobr Grammy yn 2016: Cân y Flwyddyn a'r Perfformiad Unigol Pop Gorau.
Enillodd Amy hefyd wobr BAFTA a Gwobr Brit am ei gwaith ar y gyfres BBC Keeping Faith, ac mae'n parhau i berfformio fel artist. Yn 2022, cyd-ysgrifennodd gân Eurovision y DU, Spaceman, gyda Sam Ryder, gan sicrhau canlyniad gorau'r wlad ers 1998.
A hithau wedi'i lleoli ym Mhontypridd, mae hi'n rhannu ei hamser rhwng Cymru, Los Angeles, a Nashville.
-
Bydd ffi Amy a’r elw sy’n cael ei wneud o werthu nwyddau yn cael eu rhoi i Ŵyl Morfydd. Hoffai garfan yr ŵyl ddiolch i Amy am ei chefnogaeth barhaus a'i haelioni anhygoel.

Dydd Gwener, Hydref 10fed:
Cefnogaeth gan The Goudies
Deuawd gwerin-gwlad gŵr a gwraig o Dde Cymru yw'r Goudies, sy'n adnabyddus am eu harmonïau agos, eu cyfansoddi caneuon calonogol, a'u perfformiadau cyffrous. O'i gymharu â The Civil Wars a Gillian Welch & David Rawlings, mae eu sain lliw Laurel Canyon wedi cael ei ganmol am ei "gynhesrwydd a'i ddilysrwydd pelydrol", gyda harmonïau a geiriau crai sy'n swyno cynulleidfaoedd. Wedi'u cynnwys ar BBC Introducing, BBC Radio Wales, ac Absolute Radio Country, maen nhw wedi perfformio yn Union Chapel, Gŵyl Gerddoriaeth Gwlad Prydain, a Gŵyl Big Church.