10fed - 12fed Hydref
Ein Morfydd



Arddangosfa Gelf Gymunedol
Dolenni Cyflym

Daeth yr eicon leol Morfydd Owen o'n strydoedd ni. Roedd ganddi ddawn heb ei hail, ac mae ei gwaddol yn dal i'w weld hyd heddiw. Ymunwch â ni yn yr arddangosfa galwad agored hon, sy'n gyfle i ddod o hyd i fwy o dalent lleol yn ein strydoedd - byddwch yn rhan o'r gwaddol yma. Gadewch i athrylith greadigol Morfydd Owen eich ysbrydoli chi.
Wedi'i gynnal gan:
Gŵyl Morfydd Owen Festival mewn cydweithrediad â'i noddwyr
Agoriad cyhoeddus:
Dydd Iau 9 Hydref, Amser i'w gadarnhau
Dyddiadau'r arddangosfa:
9 Hydref tan 29 Hydref
Lleoliad:
Llyfrgell Pontypridd
Galwad Agored!
Dyma'ch gwahodd i gyflwyno eich gwaith celf ar gyfer yr arddangosfa galwad agored hon. Rydym ni'n awyddus i bob darn o waith celf a gyflwynir fod wedi'i ysbrydoli gan o leiaf un o gyfansoddiadau Morfydd Owen. Os oes angen cymorth arnoch chi i ddod o hyd i recordiadau Morfydd Owen, e-bostiwch ni ac fe anfonwn ni'r rhestr chwarae atoch.
Rydym ni'n croesawu gweithiau celf amlgyfrwng, tecstilau, cerflunio, peintio, cerddoriaeth, tirwedd sain, fideo, crochenwaith, ffotograffiaeth, barddoniaeth, cyfryngau cymysg a mwy.
Am ragor o wybodaeth am gyfyngiadau maint neu gyfyngiadau o ran gofod arddangos, gweler y ddogfen sydd ynghlwm.
Gallwch hefyd wneud cais wyneb yn wyneb drwy fynd i Parc Arts ddydd Iau 11 neu 18 Medi rhwng 10am a 2pm.
Anfonwch ffurflenni wedi'u cwblhau drwy e-bost at Parcarts@hotmail.com
Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho'r ffurflen gais.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno:
Cyflwynwch eich cais erbyn 18 Medi (hanner nos)
Byddwn ni'n cysylltu â'r artistiaid sydd wedi'u dewis erbyn 30 Medi
Dylid cyflwyno Gweithiau Celf sydd wedi'u Cymeradwyo i Parc Arts ar un o'r dyddiadau canlynol: Dydd Iau 2 Hydref 9am - 2pm | Dydd Gwener 3 Hydref 9am - 4pm | Dydd Sadwrn 4 Hydref 10am - 1pm