top of page

10fed - 12fed Hydref

Amy Wadge Press Shot.jpg

Noson gydag Amy Wadge

18:30 - 21:30

Y Muni

1.png
blue.png
Butterfly - transparent_edited.png

Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy llawn cerddoriaeth gydag Amy Wadge.

Gyda'i llais llawn enaid, ei geiriau calonogol, a'i phresenoldeb llwyfan cyfareddol, mae Amy yn dod â'i straeon yn fyw mewn perfformiad agos atoch ar gyfer Gŵyl Morfydd eleni.

Mae Amy Wadge yn un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf llwyddiannus y DU, gyda phedair gwobr Grammy ac 20 enwebiad dros y degawd diwethaf. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer ystod eang o artistiaid poblogaidd, gan gynnwys Jennifer Lopez, Pink, Alicia Keys, Camila Cabello, Kylie Minogue, Keith Urban, John Legend, Kacey Musgraves, FKA Twigs, Paloma Faith, Andrea Bocelli, a Diana Ross.

Ei gwaith mwyaf enwog yw ei chân gydag Ed Sheeran, roedd Amy wedi cyd-ysgrifennu’r gân Thinking Out Loud. Cyrhaeddodd y gân yma rif 1 yn y DU, enillodd statws diemwnt yn yr Unol Daleithiau, a dyma oedd y sengl unigol fwyaf llwyddiannus yn hanes America. Enillodd y trac ddwy Wobr Grammy yn 2016: Cân y Flwyddyn a'r Perfformiad Unigol Pop Gorau.

Enillodd Amy hefyd wobr BAFTA a Gwobr Brit am ei gwaith ar y gyfres BBC Keeping Faith, ac mae'n parhau i berfformio fel artist. Yn 2022, cyd-ysgrifennodd gân Eurovision y DU, Spaceman, gyda Sam Ryder, gan sicrhau canlyniad gorau'r wlad ers 1998.

A hithau wedi'i lleoli ym Mhontypridd, mae hi'n rhannu ei hamser rhwng Cymru, Los Angeles, a Nashville.

-

Bydd ffi Amy a’r elw sy’n cael ei wneud o werthu nwyddau yn cael eu rhoi i Ŵyl Morfydd. Hoffai garfan yr ŵyl ddiolch i Amy am ei chefnogaeth barhaus a'i haelioni anhygoel.

ANGEN BWCIO

BWCIWCH NAWR

Lleoliad

Y Muni

Matthew Frederick Headshot.jpg

Dydd Sul, Hydref 12fed:

Cefnogaeth gan Matthew Frederick

Fel artist unigol, blaenwr arloeswyr Cymrucana,  Climbing Trees a hanner y ddeuawd indie-werin Hazel & Grey, mae gan Matthew Frederick nifer o ymddangosiadau teledu, radio a gwyliau yn y gorffennol, ochr yn ochr â sioeau byw yn y DU, Ewrop ac UDA.  Mae hefyd wedi perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, wedi recordio yn Stiwdios chwedlonol Maida Vale yn Llundain, wedi ennill BBC Introducing, Radio 1 a 6 Music ac enwebiad am Wobr Gerddoriaeth Gymreig, cyn rhyddhau ei albwm unigol cyntaf 'Fragments'.

bottom of page